123 Portobello Road
England GB 98765
© T. H. E. HOTEL
Croeso i wefan Teiars
Nant Conwy
Cwmni teuluol sydd wedi ei sefydlu yn
nhref Llanrwst ers 25 o flynyddoedd ac
yn cynnig gwasanaeth arbennigol gosod
teiars ceir, teiars amaethyddol, teiars
diwydiannol, teiars gaeaf a teiars 4x4.
Mae gennym dim o weithwyr sydd yn fwy na
pharod i gynnig cyngor a’ch helpu chi i ddewis
y teiars gorau ar gyfer eich cerbyd. Dewch i
drafod a byddwn yn sicr o gynnig y cyngor
gorau a’r gwerth gorau am arian. Rydym yn
cynnig gwasanaeth o answadd uchel bob
amser a’r gwasanaeth gorau i’n cwsmeriaid yn
holl bwysig i ni.
Dewch draw i’n garej yn iard yr Orsaf yn
Llanrwst lle gallwn roi dewis o deiars gan
amryw o gwmniau yn amrywio yn ol maint a
phris - ac os nad yw’r teiars mewn stoc gallwn
archebu heddiw a bydd y teiar yma fory.
Rydym yn stocio teiars gan gwmniau
blaenllaw.
Opsiwn arall yw i archebu ar lein, cliciwch ar y
linc, nodwch maint y teiar, dewisiwch eich
teiar, dewisiwch ddyddiad ac amser i’w gosod
a thalwch wrth ddod i nol eich archeb - hawdd
ac effeithiol.
Gallwn gyflenwi a gosod batris ynghyd a
darparu gwasanaeth galw allan i gwsmeriaid
yn y byd amaethyddol.
TEIARS CAR
Mae gennym dewis eang ar y safle a gallwn
osod teiars o bob maint, teiars eira a
theiars gyrriant 4 olwyn. Mae’r staff i gyd
gyda phrofiad a’r hyfforddiant i gynnig y
gwasanaeth o safon uchel. Dewch draw i’w
garej i ni wirio pwysedd yr aer a thraul y
teiar i sicrhau diogelwch ar y ffordd.
TEIARS
AMAETHYDDOL
Rydym yn arbennigo mewn teiars
amaethyddol ac mae gennym brofiad eang
wrth osod teiars i bob math o beiriannau
amaethyddol. Cysylltwch am brisiau ac os
am wasanaeth ar dir y fferm a byddwn yn
siwr o ddarparu y gwasanaeth gorau.
BATTERIES
Mae gennym stoc eang o fatris
ar gyfer unrhywfath o gerbyd.
Cysylltwch am bris.
SUT I FFEINDIO NI
Nant Conwy Tyres
Heol Yr Orsaf / Station Road
Llanrwst
Conwy
LL26 0EH
Cyfarwyddiadau:
Teithiwch ar yr A470 i fewn i Llanrwst (o’r ddau
gyfeiriad), troi at Heol yr Orsaf (chwith o Betws y
Coed / dde o Landudno) tuag at yr orsaf dren. Troi
i’r chwith cyn cyrraedd yr orsaf tuag at Teiars Nant
Conwy.